P-05-722 – Diogelu Anghenion Addysgol Arbennig

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nicola Butterfield, ar ôl casglu 553 llofnod bapur.

Geiriad y ddeiseb

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwariant ar y ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig yn cael ei glustnodi, gan gydnabod fod hwn yn fuddsoddiad ym mhlant Cymru, ac y dylai awdurdodau lleol gael eu cyfarwyddo i sicrhau bod lefelau digonol o gyllid ar gael fel y gall plant sydd angen gwasanaeth o’r fath fyw bywydau hapus a llawn, ac nad yw eu teuluoedd yn gorfod wynebu’r ofn o gystadlu â’i gilydd am leoedd.

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

Aberafan

Gorllewin De Cymru